Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o roi ceir ar dân yn fwriadol, wedi i bedwar cerbyd gael eu targedu yn Sir Fflint yn y deuddydd wedi’r Nadolig.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i ymdrin â digwyddiadau yn Bagillt a Treffynnon rhwng 9yh ar Ragfyr 26 a 1.30yb ar Ragfyr 27.
Yn ogystal â’r heddlu, fe fu diffoddwyr tân o’r Fflint, Glannau Dyfrdwy a Treffynnon yn ymladd y fflamau.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r dyn 26 oed sydd wedi’i arestio hefyd yn cael ei amau o ymosod ar weithwyr y gwasanaethau brys.