Mae dros 2,500 o bobol yn cefnogi deiseb yn galw ar Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i roi’r hawl i ffoadur o’r Congo gael aros yng Nghymru.
Cafodd Otis Bolamu ei arestio yn ei wely am 4 o’r gloch y bore yn Abertawe ddydd Iau (Rhagfyr 19).
Mae e bellach yn y ddalfa yn Gatwick, ac mae disgwyl iddo gael ei anfon yn ei ôl ar Ddydd Nadolig.
Ond mae rhybudd i deithwyr yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd i osgoi’r Congo oherwydd sefyllfa wleidyddol fregus y wlad.
Cefndir
Roedd Otis Bolamu yn arfer gweithio i lywodraeth y Congo.
Fe ddaeth i wledydd Prydain yn gynharach eleni am ei fod yn cael ei amau o fod yn ysbïwr i wrthwynebwyr llywodraeth y wlad.
Cafodd ei gais i aros yng Nghymru ei wrthod ym mis Awst, ond mae e wedi apelio yn erbyn y penderfyniad.
Ers symud i Abertawe, fe ddaeth e’n aelod gwerthfawr o’r gymuned, gan wirfoddoli gydag Oxfam.
“Y cyfan mae e am ei wneud yw addoli yn ei eglwys ar Ddydd Nadolig,” meddai’r ddeiseb.
“Yn hytrach, mae e’n cael ei anfon i mewn i berygl, a hynny ar fyrfer, ar y diwrnod mwyaf sanctaidd i Gristnogion, tra bydd y gweddill ohonom yn dathlu.
“Dyma enghraifft greulon o awyrgylch o atgasedd. Dydy’r fath weithred ddim yn cyd-fynd â neges o gariad a thrugaredd dros y Nadolig.”