Mae dyn 51 oed o ardal Trealaw ger Tonypandy wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Lana Jayne Owen, 46 oed, sydd hefyd yn dod o Drealaw.
Cafodd ei arestio ddydd Mercher, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa tan y flwyddyn newydd.
Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.
‘Calon fawr’
“Rydym ni fel teulu’n torri’n calonnau o golli’n drasig ein mam Lana,” meddai’r teulu mewn datganiad.
“Daeth hi drwy ei chyfnod isaf a chafodd ei chipio oddi arnom yn ei chyfnod gorau.
“Roedd ganddi galon fawr ac roedd hi’n llawn egni a bywyd.
“Byddai hi’n siarad ag unrhyw un ac yn gwneud unrhyw beth ar ran unrhyw un.
“Roedd hi’n fam, chwaer, modryb, nith, chwaer-yng-nghyfraith gariadus ac yn ffrind gwych, a bydd colled ar ei hôl hi.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.