Dylai newyddion o Gymru fod yn un o’r prif amodau wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol lleol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno rheoliadau sy’n sicrhau bod gorsafoedd masnachol lleol yng Nghymru yn darlledu newyddion sy’n neilltuol i Gymru.

Ar hyn o bryd, mae adran y Llywodraeth dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn ystyried cynigion i ddadreoleiddio’r diwydiant radio masnachol yng ngwledydd Prydain.

Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i orsafoedd newid fformatau, y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae, a’r safleoedd darlledu.

Cefnogi radio lleol

Yn ôl Bethan Sayed, cadeirydd y pwyllgor o Aelodau Cynulliad, mae angen i orsafoedd radio sy’n darlledu yng Nghymru “fod â gogwydd Cymreig”.

Ar hyn o bryd, gorsafoedd rhwydwaith y BBC, gan gynnwys Radio 1 a Radio 2, sydd â’r gyfran fwyaf o’r farchnad darlledu radio, gan gyfrif am bron i hanner yr holl wrandawyr radio yng Nghymru.

Mae’r pwyllgor yn galw ar y BBC i ymchwilio i opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth ‘optio allan’ i Gymru ac i flaenoriaethu er mwyn goresgyn y rhwystrau technegol presennol i hynny.

Maen nhw hefyd yn dweud bod gorsafoedd radio cymunedol yn adnodd gwerthfawr i gymunedau lleol ledled Cymru, a bod angen i Lywodraeth Cymru ystyried ailagor ei chronfa Radio Gymunedol.

Mae angen i gyrff cyhoeddus wedyn wario mwy o’u refeniw marchnata a hysbysebu er mwyn helpu i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol hefyd, ychwanega’r pwyllgor.