Mae disgwyl i gwmni Laura Ashley, sydd a’i wreiddiau yng Ngharno ym Mhowys, gau tua deugain o siopau yng ngwledydd Prydain wrth i’r prif weithredwr newydd geisio ehangu’r cwmni yn Tsieina.
Wrth siarad â’r Press Association, dywedodd Andrew Khoo fod disgwyl i nifer y siopau yn y Deyrnas Unedig ostwng o 160 i 120, gan barhau â’r strategaeth sydd wedi bod mewn lle ers 2015. Mae deugain o siopau wedi cau ers hynny.
“Y cyfeiriad dw i’n ceisio ei ddilyn yw cael llai o siopau, gan droi’r rhai sydd gennym ni’n barod yn rhai mwy,” meddai.
“Mae hyn i gyd yn ymwneud ag arddangos y brand. Does dim ots os ydyn nhw [y cwsmeriaid] yn prynu ar-lein neu du hwnt, rydyn ni eisiau iddyn nhw gael eu hysbrydoli.”
Ychwanega fod y cwmni yn ystyried symud staff o unrhyw siopau fydd yn cau i’r rhai mwy o faint.
“Rydyn ni’n symud i Asia”
Yn y cyfamser, mae Laura Ashley wedi dechrau ar gynllun i agor siopau yn Tsieina.
“Rydym yn symud i Asia mewn ffordd fawr,” meddai Andrew Khoo.
“Mae gennym swyddfa ranbarthol yn Singapore, sy’n cynnwys tua 10 o bobol yn canolbwyntio ar ddarparu masnach i Tsiena.
“Unwaith y byddwn ni’n cael troed yn y farchnad ddigidol yn Tsiena, yna fe fyddwn ni’n ystyried agor siopau yno.”
Dim ond tua saith o siopau Laura Ashley sydd yng Nghymru bellach.