Fe fydd dileu’r ffi i groesi pontydd Hafren yn “diddymu’r rhwystrau hanesyddol rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr”, yn ôl Alun Cairns.
Ysgrifennydd Cymru fydd y gyrrwr olaf i dalu i groesi’r pontydd cyn iddyn nhw gau yn barod ar gyfer dadfeilio’r tollbyrth.
“Mae diwedd y tollau’n garreg filltir fawr i economi de Cymru a de-orllewin Lloegr, ac fe fydd yn diddymu rhwystrau hanesyddol rhwng cymunedau,” meddai.
“Mae dileu’r tollau’n golygu terfyn ar genedlaethau o bobol yn talu, yn syml, i groesi’r ffin, ac fe fu cyflwyno hyn yn un o fy mhrif amcanion fel Ysgrifennydd Cymru.
“Wythnos cyn y Nadolig, fydd dim rhaid i yrwyr dalu bob tro y byddan nhw am groesi’r ffin bellach, sy’n golygu mwy o arian yn eu pocedi, a fydd yn eu helpu nhw gyda chostau byw a’u gadael nhw â mwy o arian parod i’w wario yn eu hardaloedd lleol.”
Pont Tywysog Cymru
Ond fe fu Alun Cairns dan y lach dros y misoedd diwethaf yn dilyn y penderfyniad i ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Fe ddaeth y penderfyniad i ddathlu pen-blwydd Tywysog Charles yn 70 oed a 60 mlynedd ers iddo ddod yn Dywysog Cymru.