Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn trafod sefydlu grŵp i “oruchwylio gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol” ar ôl dechreuad “anweledig” i’r corff yn nhyb y grŵp pwyso, meddai Cymdeithas yr Iaith heddiw.

Ond, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gwrthod yr haeriad ei fod yn “anweledig” wrth Golwg360 ac wedi datgan ei fod yn “ hyderus y bydd, o fewn y pum mlynedd nesaf, yn trawsnewid lle’r Gymraeg o fewn addysg uwch.”

Un o addewidion Llywodraeth Cymru flaenorol oedd sefydlu corff annibynnol, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i astudio trwy’r iaith ym mhrifysgol.

Fe ddechreuodd myfyrwyr cyntaf y Coleg Cymraeg ar eu gwaith am y tro cyntaf yr wythnos hon, ond yn ôl cynnig a drafodir yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Wrecsam (Dydd Sadwrn, 8 Hydref), ni fu digon o sylw i’r digwyddiad hanesyddol.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn nodi “gyda chryn bryder fod rhethreg y Coleg yn son am ‘ehangu cyfleon’ yn hytrach nag yn cyffroi darpar-fyfyrwyr i fod yn rhan o fenter newydd hanesyddol.”

‘Di-fflach’

“Mae dechreuad y Coleg wedi bod yn ddi-fflach, fe ddechreuodd myfyrwyr cyntaf y Coleg yn swyddogol ychydig ddiwrnodau yn ôl, ond ni sylwodd neb. Nid yw hynny yn dderbyniol, gan ystyried yr holl ymgyrchu a fu dros sefydlu coleg o’r fath,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae ’na sôn am greu rhagor o gyfleoedd, ond dyna’r hen rethreg. Dyna yn union pam rydyn ni’n pryderu nad yw’r “coleg” hwn ond yn ymestyniad o’r drefn bresennol. Trefn sydd o dan reolaeth y sefydliadau addysgol presennol – yn lle bod yn gychwyn cyffrous newydd i addysg uwch Gymraeg,” meddai.

Yn wyneb hyn, mae ymgyrchwyr yn mynd i drafod sefydlu Bwrdd Cyfarwyddwyr Cysgodol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda’r gorchwylion o fwrw golwg dros weithgarwch y Coleg, cynnig cynlluniau ar gyfer datblygiad y Coleg a gweithredu fel Ombwdsman i fyfyrwyr – neu ddarpar-fyfyrwyr – sy’n profi anawsterau yn eu hymwneud a’r Coleg.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mewn ymateb i ddatganiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg  fe ddywedodd llefarydd ar ran y Coleg wrth Golwg360: “Ers sefydlu’r Coleg ym mis Ebrill eleni mae 25 o ddarlithwyr newydd wedi eu penodi i swyddi academaidd ym mhrifysgolion Cymru, gan gynnwys rhai o academyddion disgleiriaf eu cenhedlaeth.”

“Mae’r penodiadau yma wedi eu gwneud fel canlyniad uniongyrchol i sefydlu’r Coleg,” meddai’r llefarydd.

“Dros y pedair blynedd nesaf bydd dros 100 o swyddi darlithio wedi eu llenwi a thrwy hynny gynyddu’n sylweddol y ddarpariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Yn ôl y llefarydd, mae “nifer o’r darlithwyr newydd wedi elwa ar gynllun ysgoloriaethau PhD y Coleg, sydd bellach wedi galluogi dros 60 o fyfyrwyr i astudio am ddoethuriaeth ac i ennyn profiad yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd fod y Coleg “wedi cynnig ysgoloriaethau israddedig i dros 109 o fyfyrwyr a fydd yn cychwyn yn y Brifysgol eleni, a bydd y nifer hwnnw, eto, yn codi i dros 400 o fyfyrwyr dros y tair blynedd nesaf.”

Y camau nesaf

Fe fydd system aelodaeth y Coleg, ar gyfer myfyrwyr, staff prifysgol, darpar-fyfyrwyr a chyfeillion – yn cael ei lansio yn ystod y mis hwn. Bydd gan bob myfyriwr sydd yn ymaelodi â’r Coleg bleidlais wrth ddewis cynrychiolwyr i leisio barn myfyrwyr o fewn y Coleg, gan gynnwys ar y Bwrdd Academaidd a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Tachwedd.

Mae canghennau o’r Coleg yn cael eu sefydlu yn y gwahanol brifysgolion, meddai’r llefarydd oedd hefyd yn dweud y bydd cynllun strategol y Coleg yn cael ei ystyried gan y Cyfarwyddwyr ym mis Hydref.

Bydd cynllun academaidd yn cael ei gytuno yn ystod gwanwyn 2012 er mwyn creu, am y tro cyntaf, trefn gynllunio genedlaethol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion, meddai’r Coleg.