Llun: Carl Ryan
Cafodd y cwest i farwolaeth y pedwar glowr fu farw ym mhwll glo Gleision, ei agor a’i ohirio heddiw.

Bu farw Phillip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, ar ôl i ddŵr lifo i’r pwll yng Nghilybebyll ger Pontardawe.

Bu Crwner Abertawe Phillip Rogers yn sôn am yr “amgylchiadau trist” a arweiniodd at farwolaeth y pedwar glowr.

Nid oedd eu teuluoedd y bresennol yn y cwest, a barodd dim ond ychydig funudau. Cafodd y cwest ei ohirio gan y crwner am ei fod yn disgwyl rhagor o adroddiadau am y ddamwain.

Yn ystod y cwest, cafodd tystysgrifau marwolaeth eu cyhoeddi fel bod y teuluoedd yn gallu mynd ati i drefnu angladdau’r pedwar.

Fe ddigwyddodd y drasiedi ym mhwll Gleision ar 15 Medi ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i ddigwyddiad yn y pwll. Roedd tri glowr wedi llwyddo i ddianc rhag y dŵr oedd yn llifo i’r pwll ar ôl wal ddymchwel. Cafodd cyrff y pedwar glowr arall eu darganfod y diwrnod canlynol.

Mae Heddlu’r De a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal ymchwiliad i’r ddamwain. Disgwylir i’r ymchwiliad gymryd hyd at 12 wythnos i’w gwblhau.

Angladdau

Yn y cyfamser cyhoeddwyd manylion yr angladdau. Bydd angladd Charles Breslin, o Gwm Tawe, yn amlosgfa Abertawe ddydd Mercher. Bydd angladd Phillip Hill, o Gastell-nedd, yn amlosgfa Margam ddydd Gwener, a chynhelir angladd Garry Jenkins, o Gwm Tawe, yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isa  ddydd Sadwrn a’r gladdedigaeth yn Ystradgynlais.

Dyw manylion angladd David Powell o Gwm Tawe heb eu cadarnhau hyd yn hyn.

Yn y cyfamser mae cronfa apel a sefydlwyd i helpu teuluoedd y glowyr wedi casglu dros £200,000.