Mae arbenigwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio ar brosiect gwerth £1.85m sy’n ymchwilio i’r ffordd y mae plastig yn y môr yn cludo bacteria a firysau.
Maen nhw hefyd yn ceisio deall pa effaith mae hyn yn ei gael ar iechyd pobol, wrth i blastig weithredu fel cerbyd sy’n lledaenu pathogenau ar hyd yr arfordir ac o wlad i wlad.
Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng prifysgolion Bangor, Stirling a Warwick, ac yn cael ei arwain gan y biolegydd amgylcheddol, Dr Richard Quilliam.
Bydd rhan o’r gwaith yn cael ei wneud ym Mangor, gan ddefnyddio’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a gafodd ei hagor yn ddiweddar.
“Maes ymchwil newydd”
“Bydd ein hastudiaeth yn ystyried sut mae pathogenau’n rhwymo wrth blastig yn y mor a sut mae’r broses hon yn helpu bacteria a firysau ymledu ar draws y byd – i lefydd na fyddent byth wedi eu cyrraedd drostyn nhw eu hunain pe baen nhw’n nofio’n rhydd yn y dŵr,” meddai Dr Richard Quilliam.
“Gallai fod effeithiau posib i bobol drwy’r gadwyn fwyd – er enghraifft, mae swplancton y cefnfor yn bwyta plastig, ac mae’r pysgod yn eu bwyta hwythau ac yn y pen draw, mae pobol yn eu bwyta – neu mae pobol yn llyncu’r dŵr, yn nofio yn y môr neu’n gorwedd ar y tywyod wrth ymyl plastig y môr.”