Mae Caerdydd wedi croesawu’r cyhoeddiad y caiff gwyl gerddoriaeth ryngwladol enwog ei chynnal ym mhrifddinas Cymru yn 2013.
Mae rhai’n dweud bod ‘The World Music Expo’ (WOMEX) cyn bwysiced i fyd cerddoriaeth ag y mae Gwyl Cannes i fyd ffilm.
Cynhelir y project cymorth a datblygu cerddoriaeth y byd, sydd â’i bencadlys yn Berlin, mewn gwahanol leoliadau ar draws Ewrop bob blwyddyn.
‘Enw da’
Dewiswyd Caerdydd eleni oherwydd ei henw da ym maes cynnal digwyddiadau o safon uchel ac enw da Canolfan Mileniwm Cymru fel lleoliad cerddoriaeth gwych.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau arbennig gan artistiaid a cherddorion, ffair fasnach, cynadleddau, marchnad ffilm, sesiynau rhyngweithio a gwobrwyon.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i gerddorion sefydlu cysylltiadau ar gyfer teithiau rhyngwladol a dosbarthu albymau.
Cynhelir y digwyddiad dros bum niwrnod a bydd yn denu arbenigwyr y diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys rheolwyr, cyhoeddwyr, trefnwyr gwyliau a newyddiadurwyr yn ogystal â 3000 o gynrychiolwyr.
‘Traddodiad cerddorol’
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rodney Berman: “Rydym wedi cefnogi Cerdd Cymru a Sefydliad Cerddoriaeth y Byd i geisio dod â’r wyl gerddoriaeth ryngwladol flaenllaw hon i Gaerdydd ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo.
“Mae Caerdydd yn ddinas falch gyda thraddodiad cerddorol cyfoethog. Mae gennym sin gerddoriaeth lewyrchus ac mae’r ddinas wedi cynhyrchu llwyth o grwpiau ac artistiaid llwyddiannus dros y blynyddoedd. Hefyd, wrth gwrs, rydym wedi cynnal toreth o ddigwyddiadau rhyngwladol gan ddenu miloedd i’r ddinas.
“Mae cynnal WOMEX yn arddangos ein hymrwymiad i ddarparu digwyddiadau diwylliannol amrywiol ac unigryw gyda rhywbeth i bawb, gan wneud y ddinas yn ddewis deniadol i bawb a chefnogi’r diwydiannau creadigol.”
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howells: “Mae’n newyddion gwych bod Caerdydd wedi’i dewis i gynnal y ‘World Music Expo’ yn 2013.
“Rydym yn awyddus iawn i gefnogi cerddoriaeth fyw ac i ddarparu llwyfan i ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad.
“Bydd cynnal WOMEX yn dipyn o beth a bydd yn helpu i sefydlu Caerdydd ar lwyfan gerddorol y byd. Bydd hefyd yn hwb i ddiwylliant ac economi Cymru.”
‘Digwyddiad cyffrous’
Dywedodd Catrin Finch, sef y Llysgennad Cerddorol a arweiniodd Cerdd Cymru yn yr ymgyrch i sicrhau’r wyl: “Mae’n newyddion gwych y bydd WOMEX yn dod i Gaerdydd. Mae’n ddigwyddiad cyffrous ar y naw i gerddorion a phobl sydd â chariad tuag at gerddoriaeth.
“I ni yma yng Nghymru, mae’n gyfle i glywed y goreuon yn y byd ar ein stepen drws ac mae’n gyfle i sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chlywed a’i mwynhau dros y byd i gyd.”