Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Nationwide o “wrthod derbyn dilysrwydd y Gymraeg”,  ar ôl i’r gymdeithas adeiladu yng Nghymru wrthod derbyn ffurflenni Cymraeg.

Yn ôl llythyr o gŵyn sydd wedi dod i law golwg360, fe fethodd Cymdeithas yr Iaith â phrosesu taliadau darpar aelodau yn dilyn ffrae am ffurflenni Cymraeg yng nghangen Nationwide yn Aberystwyth.

Dywed ysgrifennydd y mudiad iaith, Carol Jenkins, ei bod hi wedi cael gwybod gan Reolwr y Gangen nad oedd modd iddyn nhw dderbyn ffurflenni uniaith Gymraeg am nad oedd yr un o staff y gangen yn medru’r Gymraeg.

Mewn ymateb swyddogol, mae Nationwide yn dweud bod mwyafrif o’u staff a’u cwsmeriaid yn “siarad Saesneg”, felly mae’n rhaid i ddogfennaeth sy’n cael ei derbyn ganddyn nhw fod yn yr iaith fain.

“Diffyg parch”

Meddai Carol Jenkins yn ei llythyr o gŵyn:  ‘Aelodau’r Nationwide yw perchnogion y gymdeithas adeiladu wrth gwrs ac rydych yn brolio ar eich gwefan eich bod yn eu rhoi nhw’n gyntaf.

‘Nodwch eich bod yn gwrando ar beth mae’ch aelodau eu hangen a bod yn awyddus i’w helpu, eu teuluoedd a’u cymunedau.

‘Nid yw hyn yn wir yn yr achos hwn. Rydych wedi trin yr aelodau hyn yn israddol, gan ddangos diffyg parch tuag atyn nhw a’r cymunedau Cymraeg y maent yn rhan ohonynt, a ble mae gennych chi ganghennau.

‘Trwy wrthod y ffurflenni hyn, rydych yn ymddwyn fel pe na bai’r Gymraeg yn iaith swyddogol o fath yn y byd.

‘Rydych yn gwrthod derbyn dilysrwydd y Gymraeg ac yn ymyrryd gyda rhyddid yr unigolion hyn i ddefnyddio’r Gymraeg.’

Ymateb Nationwide

“Mae Nationwide yn sefydliad sydd wedi’i leoli yng ngwledydd Prydain ac mae’r mwyafrif o’i staff a’i gwsmeriaid yn siarad Saesneg fel prif iaith,” meddai llefarydd ar ran y gymdeithas adeiladu.

“Mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r ddogfennaeth gael ei phrosesu mewn lleoliad arall o fewn y gymdeithas, felly er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei phrosesu’n iawn mae’r ffurflenni mewn Saesneg.

“Rydym yn cydnabod nad Saesneg yw iaith gyntaf ein holl gwsmeriaid ac rydym yn cydweithio â’r cwsmeriaid hyn i sicrhau ein bod ni’n gallu eu cefnogi gyda’u hanghenion bancio.

“Yng Nghymru, mae nifer o’n canghennau yn cynnwys staff sy’n siarad Cymraeg, sy’n gallu cefnogi cwsmeriaid os oes angen.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhannu eu llythyr at Nationwide gyda ni ac mae’n siomedig gweld enghreifftiau ble mae’n ymddangos bod diffyg dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

“Rydym wrthi’n cynnal cyfarfodydd unigol gydag uwch reolwyr yr holl fanciau stryd fawr sy’n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd, yn trafod cwynion yr ydym wedi eu derbyn.

“Yn wahanol i sefydliadau sector cyhoeddus, nid oes dyletswyddau cyfreithiol ar fanciau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, ond mae gennym fforwm ar gyfer uwch reolwyr yng Nghymru i rannu arferion da ac i drafod ffyrdd o gynyddu eu defnydd o’r iaith.

“Mae’r fforwm wedi arwain at nifer o gamau cadarnhaol gan rai banciau o ran cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg. Mae gan eraill ffordd bell i fynd.”