Mae cwmni o Fôn sydd wedi creu’r tegan cyntaf erioed sy’n canu yn Gymraeg, yn “teimlo’n drist” na chawson nhw arian o gronfa Llywodraeth Cymru i greu tegan newydd i hybu’r iaith.

Ac mae eu Haelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg mai dyma’r “union fath o beth y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei gefnogi” er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Ond mae’r Llywodraeth wedi dweud mai dim ond £125,000 oedd yn y gronfa, ac “oherwydd safon eithriadol y ceisiadau a ddaeth i law, nid oedd yn bosib cefnogi pob prosiect”.

Cwmni yn gwerthu miloedd

Ers 2016, mae cwmni Si-lwli Cymru wedi gwerthu 5,000 o’r tegan ‘Seren Swynol’ sy’n canu hwiangerddi Dafydd Iwan ac Edward o record hir Cwm-Rhyd-Y-Rhosyn.

Gan fod eu teganau yn ddrud i’w cynhyrchu, gwnaeth y cwmni gais am grant o £20,000 o gronfa Cynllun Cymraeg 2050 y Llywodraeth ym mis Medi 2017 ar gyfer tegan carioci newydd sbon o’r enw ‘Canu-ywci’.

Roedd y gronfa yn gofyn i bobol ‘gynnig syniadau a gweithgareddau newydd sydd yn anelu i hybu neu hwyluso defnydd o’r Gymraeg ac sydd heb eu gweithredu yn y gorffennol’, felly roedd yn rhaid iddyn nhw wneud cais am gynnyrch newydd sbon.

“Mi fuasai’n ddrud iawn i’w gynhyrchu,” meddai Awena Walkden am y ‘Canu-ywci’, sef llyfr gyda meicroffon yn sownd iddo. “Buasai’n helpu plant ac oedolion dysgu i ganu geiriau Cymraeg, ac yn datblygu eu sgiliau iaith.

“Buasai wedi ei anelu at blant hŷn – tua 4-13 oed, oed darllen, ac yn gwneud canu’n Gymraeg yn cŵl oherwydd y bwriad oedd i blant mynd ag o gyda nhw i chwarae â’u ffrindiau. Byddai wedi helpu nhw gyda’i doniau cerddorol hefyd.”

“Dw i’n teimlo’n drist am y ffaith bod y Llywodraeth ddim yn deall pa mor bwysig yw pethau fel hyn,” ychwanegodd Awena Walkden.

Ymateb Rhun ap Iorwerth

Cafodd cwmni Si-lwli Cymru eu cymell i wneud cais am grant gan Aelod Cynulliad Ynys Môn, sy’n credu y dylai’r Llywodraeth fod wedi eu cefnogi.

“Er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg (erbyn 2050), rhaid creu bwrlwm ieithyddol, ennill cefnogaeth, arloesi a normaleiddio y Gymraeg,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth gylchgrawn Golwg.

“Bydd angen buddsoddi mewn addysg, ac mewn materion diwylliannol ac ati, ond hefyd rhaid bachu ar bob cyfle i hybu mentrau sy’n cefnogi’r iaith yn y sector breifat.

“Dyma sydd gynnon ni efo cwmni Si-lwli, ac mae’n fy nharo i bod creu deunydd chwarae i gyflwyno’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, yr union fath o beth y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei gefnogi.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, daeth “nifer fawr o geisiadau ar gyfer y Grantiau 2050. Yn anffodus, hyd yn oed gyda £125,000 o gyllid ychwanegol oherwydd safon eithriadol y ceisiadau a ddaeth i law, nid oedd yn bosib cefnogi pob prosiect.

“Llwyr gydnabyddwn bwysigrwydd defnydd o’r Gymraeg mewn plentyndod ac yn y cartref ac felly rydym wrthi’n llunio cynllun hir dymor i lywio’n gweithgarwch ym maes trosglwyddo’r Gymraeg rhwng rhieni a’u plant.”

Pwy gafodd grant?

Bwriad Llywodraeth Cymru oedd ‘ariannu projectau newydd ac arloesol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg’, i gefnogi ‘cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y strategaeth iaith Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.

Ymhlith y projectau a gafodd nawdd mae:

  • £14,825 ar gyfer ‘Clwb Finyl’ i ddod â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg at ei gilydd i drafod y Sîn Roc Gymraeg ac annog adolygiadau ar y We (Cerddoriaeth Gymunedol Cymru);
  • £13,400 i gynllun arbrofol i greu clybiau côdio yn y de orllewin (Cered);
  • £17,100 i droi’r llyfr Caneuon Bys a Bawd yn app (Cered);
  • £20,000 i ddatblygu app iechyd a lles i helpu pobol i fyfyrio a gwneud ioga (Menter Iaith Abertawe);
  • £20,000 i greu gêm yn seiliedig ar chwedloniaeth Gymraeg i gynorthwyo dysgu’r Gymraeg (Astral Dynamics).

Rhagor am gwmni Si-lwli Cymru yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.