Does fawr o obaith o gael Nadolig gwyn yng Nghymru eleni, yn ôl ymchwil gan gwmni cartrefi Barratt.
Mae’r gogledd 28% yn sicr o gael eira, tra mai 16% yw’r ffigwr yn y de.
Yn yr Alban mae’n fwyaf tebygol o fwrw eira eleni (44%). Maen nhw wedi cael 11 Nadolig gwyn dros y chwarter canrif diwethaf.
O safbwynt Cymru, saith Nadolig gwyn sydd wedi bod yn y de, a dim ond pedwar yn y gogledd.
Sut mae mesur Nadolig gwyn?
Aethon nhw ati i ddarogan y tebygolrwydd gan ddefnyddio ystadegau’r Swyddfa Dywydd ar gyfer y 25 mlynedd diwethaf ym mhob rhan o wledydd Prydain.
Mae’r tebygolrwydd yn cael ei ddarganfod drwy fesur faint o eira sydd wedi cwympo rhwng Rhagfyr 21 a Ionawr 4 bob blwyddyn ac yn fwy penodol, faint o eira sydd wedi cwympo ar Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.
Mae’r ffigwr yn cynnwys eira ar lawr yn ystod y cyfnod dan sylw, hyd yn oed os oes yna ddiwrnodau pan nad oedd yn bwrw eira.