Mae un o undebau ffermwyr Cymru wedi mynegi pryder y gallai bwriad Llywodraeth Cymru i blannu coed mewn rhannau helaeth o Gymru arwain at ddiflaniad 1,400 o ffermydd.
Yn dilyn ymgynghoriad a gafodd ei gynnal dros yr haf, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chynllun Darparu Carbon Isel fis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Wrth amlinellu targedau ar gyfer y sector amaethyddol, roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys plannu coed ar 66,000 hectar o dir yng Nghymru, gan ddilyn y targed o 2,000-4,000 hectar y flwyddyn.
Ond yn ôl NFU Cymru, mae angen cynnal asesiad ar yr effaith y bydd gwaith o’r maint hwn yn ei gael ar gymunedau gwledig, gyda pheryg y gall 1,400 o deuluoedd ffermio yng Nghymru orfod adael eu tir.
Maen nhw wedi dod i’r casgliad hwn, medden nhw, wrth ystyried mai maint pob fferm yng Nghymru ar gyfartaledd yw 48 hectar.
Asesiad yn “hanfodol”
“Mae’n hanfodol, cyn symud ymlaen, fod Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar deuluoedd ffermio, ein cymunedau gwledig a’r iaith, yn ogystal â’r economi a’r amgylchedd,” meddai Hedd Pugh, Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru.
“Tan fod yna asesiad, dydyn ni ddim wedi cael ein perswadio o gwbwl fod yna gyfartaledd gan Lywodraeth Cymru rhwng ei hymgais i leihau lefelau carbon a’i thargedau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.