Mae Heddlu De Cymru wedi dod o hyd i gorff mewn ardal goediog yng Nghaerdydd yn ystod ymchwiliad i farwolaeth dyn 24 oed o’r brifddinas.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i’r corff ger Canolfan Hamdden Pentwyn, ac mae erbyn hyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd tra bod ymchwiliad yn yr ardal yn parhau.

Mae Mohamed Megherbi, sy’n wreiddiol o Algeria, wedi bod ar goll ers Hydref 9, pan gafodd ei weld diwethaf yn ardal Y Rhath.

Fe ymddangosodd Kane Burns, 26, o Lanedern gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn diwethaf (Tachwedd 24) wedi’i gyhuddo o’i lofruddiaeth. Mae’n parhau yn y ddalfa.