Mae pecynnau profi ar gyfer heintiau rhywiol yn cael eu postio am ddim i gleifion fel rhan o arbrawf gan fwrdd iechyd lleol.
Yn ddiweddar mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn cynnal y gwasanaeth peilot, lle mae modd i gleifion brofi eu hunain ar gyfer Clamydia a Gonorrhea.
Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei dreialu a’i werthuso yng ngorllewin Cymru cyn cael ei gynnal ledled gweddill y wlad.
Dyma’r tro cyntaf i ddull hunan-brofi fod ar gael yn ganolog yng Nghymru ar gyfer clefydau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol.
Cyn hyn, dim ond trwy brynu’r profion yn breifat yr oedd modd i bobol brofi eu hunain.
“Prawf newydd”
“Fe fyddwn ni’n rhoi cynnig ar brawf newydd sy’n defnyddio swab ar gyfer pawb yn lle sampl iwrin,” meddai Zoe Couzens o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae hyn yn gwneud postio citiau’n haws i bawb. Bydd 1,000 o gitiau prawf ar gael, wedyn bydd y gwasanaeth yn cael ei werthuso i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer Cymru ac felly fe fyddwn ni eisiau i bobol ddweud wrthym ni beth maen nhw’n ei feddwl drwy lenwi arolwg ar-lein.”