Mae’r cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi clywed bod y diweddar Aelod Cynulliad wedi dweud wrth ei chauffeur, “Fy mai i yw hyn”.
Cafodd Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ar Dachwedd 7, 2017, bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru yn sgil honiadau o gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn.
Ar bedwerydd diwrnod y cwest yn Rhuthun, mae gyrrwr gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi tystiolaeth.
Roedd Calvin Williams wedi rhoi lifft i’r Aelod Cynulliad wedi iddo gyfarfod â Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Tystiolaeth
“Roeddwn yn meddwl fy mod i’n ei gludo i’r orsaf drenau,” meddai Calvin Williams gerbron y gwrandawiad yn Neuadd Sirol Rhuthun.
“Ac mi ofynnais iddo – ‘ydi popeth yn oce?’. Fe ddywedodd e ‘Na’ ac fe wnaeth ystum fel petai’n hollti ei wddw.”
Ar ôl siarad ar y ffôn, fe ofynnodd Carl Sargeant i’r gyrrwr ei gludo i Hotel Hilton yn hytrach na’r orsaf drenau. Ar ôl cyrraedd yr orsaf, fe holodd Calvin Williams am yr ymddiswyddiad.
“’Dw i wedi mynd’, meddai fe. A gofynnes i, ‘Pam wnaeth e dy ddiswyddo?’” meddai Calvin Williams wedyn.
“Fe ddyweodd Carl Sargeant, ‘Mae’n ocê. Mae’n gymhleth. Fy mai i ydi hyn’.”