Mae cwest i farwolaeth merch ddwy oed wedi clywed iddi gael ei lladd ar ôl i gar ei mam lithro i mewn i afon Teifi ar Fawrth 19 eleni.

Roedd Kiara Moore wedi ei gadael ar ei phen ei hun yn y cerbyd a oedd wedi’i barcio y tu allan i swyddfa busnes ei rheini yn Aberteifi. O fewn ychydig dros ddau funud roedd y car wedi llithro i’r dŵr rhewllyd.

Roedd ei mam, Kim Rowlands, 29, iddi adael ei merch yn y car wrth iddi fynd i’r tŷ i nôl £10 er mwyn prynu bwyd. Mewn datganiad i’r cwest, mae’n dweud nad oedd gwregys diogelwch o gylch Kiara, a bod ei merch “mewn hwyliau direidus”.

Mae camerâu yn dangos bod Kiara wedi cael ei gadael am ddau funud ag eiliad tu allan i’r swyddfa cyn i’r car lithro, gan gyrraedd y dŵr ddeg eiliad yn ddiweddarach. Fe gafodd y car Mini ei ysgubo ymaiath gan gerrynt afon Teifi.

Fe gymrodd hi ddwyawr i’r heddlu ddod o hyd i’r car, a oedd erbyn hynny wedi’i lenwi â dŵr.