Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain draffig ger Castell-nedd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 26).

Yn ôl y gwasanaethau brys, bu’r digwyddiad toc wedi 2:30yp ar Heol Dŵr y Felin ger cyffordd Twyn Teg, lle tarodd Nissan Juke llwyd yn erbyn wal gerrig.

Bu farw gyrrwr y cerbyd yn y fan a’r lle, er gwaethaf ymdrechion i’w achub.