Mae adroddiad newydd yn dangos bod bron i hanner y trydan a gafodd ei ddefnyddio yng Nghymru y llynedd wedi dod o ynni adnewyddadwy.
Mae Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017 yn dangos bod yr hyn sy’n cyfateb i 48% o drydan y wlad o ynni adnewyddadwy – i fyny o 43% yn 2016.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod Cymru wedi cynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiodd, gan sicrhau bod trydan yn cael ei allforio i Loegr, Iwerddon a gwledydd yn Ewrop.
Yn ôl yr Ysgrifennydd tros yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, mae Cymru’n “camu’n nes” at ei tharged o sicrhau bod 70% o’r trydan y mae Cymru’n ei ddefnyddio yn dod o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.
“Camau anferth ymlaen”
“A bron hanner y trydan a ddefnyddiwn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, yn ogystal â bod dros hanner ffordd ar gyrraedd ein targed o ran y capasiti trydan adnewyddadwy sydd mewn dwylo lleol, rydyn ni’n gweld fod y sector yn cymryd camau anferth ymlaen,” meddai.
“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i weld ein system ynni’n newid yn gyflymach, yn enwedig trwy gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy.
“Ein blaenoriaeth yw defnyddio ynni’n fwy effeithiol, lleihau ein dibyniaeth ar ynni o danwyddau ffosil a gweithio’n galed i reoli’r newid i economi carbon isel er lles Cymru.”
Y ffigyrau
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod:
- 22% o’r trydan a gafodd ei gynhyrchu yn dod o ffynonellau adnewyddadwy – i fyny 18% yn 2016;
- Mwy na 67,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru;
- Pŵer y gwynt yn cynhyrchu rhyw 66% o’r trydan adnewyddadwy yng Nghymru;
- Cymru’n cynhyrchu tua 2.1 TWh o ynni adnewyddadwy, sy’n cyfateb i 10.5% o’r galw domestig am wres yng Nghymru;
- 63,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yn eiddo i bobol leol