plant mewn gofal yn hapus eu byd, ar y cyfan, yn ôl ymchwil newydd yng Nghymru gan elusen Coram Voice a Phrifysgol Bryste.
Mae’r arolwg Fy Mywyd i, Fy Ngofal i yn tynnu ar brofiadau plant mewn gofal mewn chwech awdurdod yng Nghymru eleni, ac fe gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gefnogi gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Roedd 686 o blant a phobol ifanc wedi’u holi, sy’n cyfateb i ryw 28% o’r plant a phobol ifanc 14-18 oed mewn gofal yng Nghymru.
Bydd yr arolwg yn helpu awdurdodau lleol i ddeall beth sy’n bwysig i blant mewn gofal.
Canlyniadau’r arolwg
- Mae 96% o blant pedair i ddeg oed a 71% o bobol ifanc 11-18 oed yn ymddiried yn eu gofalwyr ‘drwy’r amser neu weithiau’.
- Mae’r rhan fwyaf o blant mewn gofal yn teimlo’n ddiogel – a chyfran uwch ohonyn nhw na phlant nad ydyn nhw mewn gofal yn teimlo hynny.
- Mae 94% o blant a phobol ifanc 8-18 oed yn teimlo bod eu gofalwyr yn dangos diddordeb yn eu haddysg.
“Mae gwella canlyniadau a chyfleoedd bywyd i blant sy’n cael profiad o dderbyn gofal yn flaenoriaeth i mi fel y Gweinidog dros Blant ac i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol,” meddai Huw Irranca-Davies, wrth ymateb i ganlyniadau’r arolwg.
“Mae’n gwbl hanfodol gwrando ar blant a phobol ifanc a’u cydnabod, ac ymateb i’w barn a’u profiadau. Felly rydw i am ddiolch i’r holl blant a phobol ifanc sydd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.
“Mae yna feysydd lle rydyn ni’n cyflawni’n dda ond gallem wneud yn well mewn rhai eraill. Rhaid i ni ddysgu nawr o’r hyn mae plant a phobol ifanc yn ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw – yn eu perthynas â’u gofalwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau, y ffordd maen nhw’n cael eu cefnogi a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cael i flodeuo.
“Dyma fy neges i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – byddwn ni’n gwrando arnoch chi, a byddwn ni’n gweithredu i sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’ch pryderon chi.”
‘Siarad wyneb yn wyneb yn bwysig’
“Mae siarad â phlant a phobl ifanc wyneb yn wyneb yn hynod bwysig,” meddai Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
“Ond mae arolwg yn gwneud rhywbeth gwahanol. Mae arolwg yn rhoi cyfle iddyn nhw roi eu barn yn onest am eu profiadau, a hynny’n ddienw.
“Mae’n gyfle i’r rheiny sy’n gyfrifol am eu gofal dynnu sylw at feysydd y gallai fod angen iddyn nhw weithio arnyn nhw i wella profiadau.
“Mae’n gyfle hefyd i glywed am bryderon plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal yma yng Nghymru, ac yn bwysicach oll, i ymateb i’r pryderon hynny.”