Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £24m ar gyfer paratoi athrawon Cymru i gyflwyno’r cwricwlwm addysg newydd.
Bydd y Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) yn darparu £9m yn ystod y flwyddyn ariannol hon, cyn cynyddu i £15m y flwyddyn nesaf.
Pwrpas yr arian yw sicrhau bod ysgolion yn gallu cynllunio o flaen llaw ar gyfer y cwricwlwm newydd, gan sicrhau bod newidiadau sy’n cael eu cyflwyno’n rhoi blaenoriaeth i les athrawon a ddim yn effeithio ar ddysgu’r disgyblion.
Bydd yr arian hefyd yn sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau o’u gwaith ar gyfer dysgu proffesiynol.
“Buddsoddiad mewn rhagoriaeth”
“Mae’r buddsoddiad mawr hwn yn dangos faint o bwys rydym yn ei roi ar ddysgu proffesiynol athrawon,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’n fuddsoddiad mewn rhagoriaeth a’n nod yw dim llai na gweddnewid sut mae athrawon yn dysgu’n llwyr; proses sy’n cychwyn o’r eiliad maen nhw’n dechrau addysg gychwynnol athrawon ac yn parhau gydol eu gyrfa.”
Hyfforddiant yn “hanfodol”
Mae’r cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Tachwedd 12) wedi cael ei groesawu gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) sy’n dweud bod dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yn “hanfodol” os yw’r cwricwlwm newydd am lwyddo.
“Mae’n anodd dirnad maint a dyfnder y newidiadau sy’n dod i’n system addysg dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
“Ffolineb llwyr fyddai meddwl bod diwygiadau ar y fath raddfa’n bosib heb fuddsoddiad sylweddol iawn mewn dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu.
“Rydym yn falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cyllid penodol er mwyn hwyluso’r math o ddysgu proffesiynol sydd ei angen, gyda phwyslais ar ddulliau amrywiol a hyblygrwydd, a hynny law yn llaw gyda lles athrawon.”