Mae llefarydd Brexit y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi dweud y gellir atal Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn sgil Brexit heb gytundeb, meddai, “fe ddylai pob opsiwn fod ar y bwrdd” gan gynnwys cynnal ail refferendwm.
Mae’n ymddangos fod ei sylwadau yn gwrth-ddweud yr hyn ddywedodd Jeremy Corbyn wythnos ddiwethaf. Roedd arweinydd y blaid wedi dweud na allai Llafur atal Brexit ac fe wfftiodd galwadau am gynnal refferendwm arall ar y mater.
Wrth siarad gyda Sky News, dywedodd Syr Keir Starmer: “Fe ellir stopio Brexit. Ond y cwestiwn mawr yw beth yw’r penderfyniadau rydyn ni’n eu hwynebu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf?
“Y penderfyniad cyntaf yw’r cytundeb. Yr ail benderfyniad yw, os nad oes cytundeb fe ddylai etholiad cyffredinol gael ei chynnal, a’r trydydd penderfyniad, os nad oes etholiad cyffredinol fe ddylai pob opsiwn fod ar y bwrdd gan gynnwys cynnal pleidlais gyhoeddus.”
Roedd Syr Keir Starmer yn mynnu mai dyna yw safiad y Blaid Lafur, gan gynnwys Jeremy Corbyn, er ei fod yn cyfaddef nad yw pawb yn y blaid yn gytûn.
Yn y cyfamser mae gweinidogion y 27 aelod sy’n weddill o’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu diweddaru am y datblygiadau diweddaraf gan y prif drafodwr Michel Barnier ym Mrwsel.