Gall tynnu gormod o hunluniau arwain at narsisiaeth, yn ôl ymchwil gan brifysgolion Abertawe a Milan.
Maen nhw’n rhybuddio bod un o bob pump o’r boblogaeth mewn perygl o fynd yn fwy narsisaidd o or-ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ymchwil yn seiliedig ar ymddygiad 74 o unigolion rhwng 18 a 34 oed dros gyfnod o bedwar mis, a’u defnydd o wefannau cymdeithasol Twitter, Facebook, Instagram a Snapchat.
Roedd y rhai oedd yn gor-ddefnyddio’r gwefannau hyn 25% yn fwy narsisaidd, oedd yn mynd â nhw i lefel sy’n cael ei ystyried yn anhwylder.
Yn ôl yr ymchwilwyr, dydy pobol sydd yn defnyddio’r gwefannau cymdeithasol i bostio negeseuon geiriol yn unig ddim yn debygol o arddangos y nodweddion narsisaidd hyn.
Roedd 73 o’r unigolion yn defnyddio’r gwefannau cymdeithasol, a hynny at ddibenion hamdden am gyfnod o dair awr y dydd ar gyfartaledd. Roedd rhai yn nodi eu bod yn treulio wyth awr y dydd yn pori’r gwefannau.
Roedd 60% ohonyn nhw’n defnyddio Facebook, 25% yn defnyddio Instagram, a 13% yn defnyddio Twitter a Snapchat.
Roedd dau draean yn defnyddio’r gwefannau cymdeithasol yn bennaf er mwyn postio lluniau.
‘Adnabod peryglon’
“Fe fu awgrym o gyswllt rhwng narsisiaeth a’r defnydd o bostiadau gweledol ar wefannau cymdeithasol, fel Facebook, ond tan yr astudiaeth hon, doedden ni ddim yn gwybod a yw narsisiaid yn defnyddio mwy o’r math yma o wefannau cymdeithasol, neu a yw defnyddio’r fath lwyfannau’n gysylltiedig â’r twf mewn narsisiaeth sy’n dilyn,” meddai’r Athro Phil Reed o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe.
“Mae canlyniadau’r astudiaeth hon yn awgrymu bod y ddau beth yn digwydd, ond yn dangos y gall postio hunluniau arwain at gynnydd mewn narsisiaeth.
“O gymryd ein sampl fel un sy’n cynrychioli’r boblogaeth, a does dim rheswm i amau hynny, mae’n golygu bod oddeutu 20% o bobol mewn perygl o ddatblygu’r nodweddion narsisaidd sy’n gysylltiedig â gor-ddefnyddio’r gwefannau cymdeithasol gweledol.
“Mae’r ffaith fod y prif ddefnydd o wefannau cymdeithasol yn un gweledol, yn bennaf drwy Facebook, yn awgrymu y gallem weld y cynnydd yn y broblem bersonoliaeth hon yn fwy aml, oni bai ein bod yn adnabod y peryglon yn y dull hwn o gyfathrebu.”