Mae’r aelod o lywodraeth San Steffan sy’n gyfrifol am ddarlledu wedi agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin – gan gyfaddef yr un pryd nad yw erioed wedi gwylio’r sianel.
Jeremy Wright, y Gweinidog Diwylliant, oedd yn torri’r rhuban yn Yr Egin heddiw (dydd Iau, Tachwedd 8) pan wnaeth ei sylwadau sydd wedi gwylltio ymgyrchwyr iaith a’r rheiny sydd am weld y cyfrifoldeb am ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Fae Caerdydd.
Mewn ymateb, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Ymgyrchu Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod hyn “yn warthus, yn siom, yn drist”… er nad oedd chwaith wedi ei synnu.
“Y mae’r sylwadau hyn gan Ysgrifennydd Gwladol San Steffan yn cadarnhau bod angen datganoli grymoedd darlledu i Gymru,” meddai. “Pa synnwyr sydd fod grymoedd dros reoleiddio a gwneud penderfyniadau am ddarlledu yn gorwedd yn nwylo sefydliad mewn gwlad arall?
“Y mae’n hollol warthus nad yw Jeremy Wright erioed wedi gwylio S4C ac yn dangos yn glir nad fe – nag unrhyw weinidog arall yn San Steffan – ddylai fod yn gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru. Galwn eto ar y Llywodraeth yn San Steffan felly i ddatganoli darlledu yng Nghymru, i Gymru.”