Mae Cyngor Sir Gâr yn gobeithio denu mwy o ymwelwyr i Ogof Twm Siôn Cati ym Mlaenau Tywi drwy osod arwyddion newydd ger y safle.
Mae’r llwybr sy’n arwain at yr ogof yn uchel ym mryniau coediog Rhandir-mwyn wedi cael ei adnewyddu’n ddiweddar.
Mae’r arwyddion yn rhan o ymgyrch ehangach i dynnu sylw at un o gymeriadau enwoca’r byd chwedloniaeth yng Nghymru.
Hanes Twm Siôn Cati
Cymeriad gwyllt a direidus oedd Twm Siôn Cati, yn ôl chwedloniaeth, ac roedd yn aml yn cuddio ar ôl drygioni ar draul y pendefigion a phobol gyfoethog – gweithredoedd sydd wedi arwain at ei enw fel y ‘Robin Hood’ Cymreig.
Roedd yn Brotestant pybyr ac am y rheswm hwnnw y bu’n rhaid iddo ffoi i Genefa rhag cael ei erlyn gan y Frenhines Mary. Ond fe gafodd e faddeuant yn ddiweddarach gan Elizabeth y Cyntaf.
Yn ddiweddarach yn ei fywyd, fe wnaeth e droi at farddoniaeth, ac fe briododd â Joan, gweddw gyfoethog oedd yn byw ger yr Ogof ar fferm Ystrad-ffin.
Yr ogof
Fe fu’r ogof yn boblogaidd ar un adeg, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac fe gafodd dwsinau o’u henwau eu cerfio yng nghraig yr ogof, a’r cyntaf o’r rhai gweladwy yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif.
“Roedd yn drueni fod llawer o’r bobl sy’n heidio bob blwyddyn i Randir-mwyn i weld cronfa ddŵr Llyn Brianne a’r barcud ddim yn gwybod am Twm Siôn Cati a’i ogof,” meddai’r ymgyrchydd Alun Jones.
“Bydd yr arwyddion yn helpu i roi’r gydnabyddiaeth a pharch y mae Twm yn ei haeddu. Y cam nesaf fydd codi hysbysfwrdd a cherflun pren yng nghyffiniau’r ogof.”