Mae streic gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent wedi cael ei ohirio ar ôl iddyn nhw gael cynnig 2% o gynnydd yn eu cyflogau.
Fis diwethaf, fe bleidleisiodd 88.1% o aelodau undeb Unsain sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, sy’n gyfrifol am lyfrgelloedd, canolfannau hamdden a pharciau o fewn y sir, o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.
Roedd disgwyl i streic gael ei gynnal am 24 awr heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 7), ond mae datblygiadau yn y trafodaethau rhwng yr undeb a’r cyflogwr bellach wedi rhoi stop ar hynny.
Roedd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin wedi cynnig 1% o gynnydd mewn cyflogau yn wreiddiol, cyn y cynnig pellach o 1.5% – ond cafodd y ddau eu gwrthod gan y gweithwyr.
Mae’r cynnig diweddaraf yn golygu y bydd 1.5% yn ychwanegol yn cael ei ôl-dalu ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 1 a Medi 30 2018, cyn cynyddu i 2% rhwng Hydref 1 2018 a Mawrth 31 2019.
“Solidariaeth ysbrydoledig”
Yn ôl Unsain, roedd y diffyg cynnydd mewn cyflogau ers mis Ebrill 2016 yn golygu bod rhai o’r gweithwyr wedi gorfod defnyddio gwasanaeth banciau bwyd.
“Dyw gweithwyr Ymddiriedolaeth Aneurin ddim wedi cael cynnydd yn eu cyflogau ers dwy flynedd,” meddai Rosie Lewis, trefnydd rhanbarthol Unsain.
“Roedden nhw wedi cael digon gyda chyflogau isel ac wedi penderfynu gwneud rhywbeth amdano.
“Mae pwysau’r bleidlais o blaid streicio wedi gorfodi’r cyflogwr i gyfaddawdu cynnig cyflog gwell a fydd bellach yn cael ei ystyried gan staff.
“Rydyn ni’n awgrymu derbyn y cynnig gwell o gyflog ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gydag agwedd bositif y cyflogwr yn y dyfodol,” meddai wedyn.
Bydd Unsain yn cynnal pleidlais ychwanegol ar y cynnig diweddaraf, ac fe fydd honno’n dod i ben ar Dachwedd 15.