Mae trefnwyr Pencampwriaeth Bara Brith 2018 yn atgoffa cystadleuwyr mai ychydig dros wythnos sydd i fynd, os am roi cynnig arni.
Mae’r gystadleuaeth eleni ar Dachwedd 16 yn rhan o Ffair Nadolig Llandudno.
Yn ôl y trefnwyr, mae cryn ddiddordeb yn y gystadleuaeth, sy’n rhoi cyfle am y tro cyntaf eleni i bobol ifanc gystadlu mewn categori yn arbennig ar eu cyfer.
Am y tro cyntaf eleni, mae mannau gollwng ar gyfer cystadleuwyr ym mhob rhan o’r wlad – yn Deli Canna Caerdydd, Deli Stryd Fawr Y Drenewydd, Deli Blasau Machynlleth a phrif swyddfa Merched y Wawr yn Aberystwyth.