Susan Elan Jones yw Aelod Seneddol De Clwyd
 Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o dorri S4C allan o bob penderfyniad ar ei dyfodol ei hun.

 Ac mae Susan Elan Jones o’r Blaid Lafur yn mynnu bod angen i Lywodraeth Prydain osod “isafswm” o ran y cyllid y bydd S4C yn ei dderbyn gan y BBC.

 Mae Golwg 360 wedi cael gafael ar lythyr a anfonwyd gan Susan Elan Jones at y Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi’r cyhoeddiad wythnos yn ôl mai’r BBC yn unig fydd yn penderfynu faint o arian i’w roi i S4C o 2015 ymlaen.

 Mae’r llythyr yn rhybuddio bod amodau’r cytundeb ariannu â’r BBC wedi 2015 yn golygu na fydd gan S4C bellach lais yn ei dyfodol ei hun.

 “Mae amodau’r cytundeb yn cau S4C allan o’r broses o wneud penderfyniadau yn gyfan-gwbwl,” meddai Susan Elan Jones – sy’n dweud bod methu â nodi isafswm o gyllid yn golygu bod y Sianel yn llwyr ar ofyn y BBC.

 “Y cyfan a ofynnir [yn y Cytundeb] yw bod y swm yn ‘cyd fynd â’r ymrwymiad at wasanaeth teledu Cymraeg ei iaith sy’n gryf ac yn annibynnol fel a nodwyd yn y llythyr o gytundeb’.”

 Ond dydi’r llythyr o gytundeb, yn ô Susan Elan Jones, yn cynnig “dim manylion na diffiniad o’r ‘ymrwymiad’ hyn.”

 Mae’r AS dros Dde Clwyd hefyd yn anhapus bod y cytundeb rhwng yr Ysgrifennydd Diwylliant a’r BBC yn dweud “dylai’r trefniadau hefyd gynnwys y trefniadau llywodraethol a gytunwyd rhwng y BBC a’r Ysgrifenydd Gwladol.”

 Yn hyn o beth, medd Susan Elan Jones, “ni fyddai angen i S4C gytuno gyda’r un penderfyniad a wneir, ac na fydd hyd oed angen ymgynghori ag S4C cyn penderfynu.”

 “Os yw hyn yn mynd yn ei flaen heb ei newid, bydd annibyniaeth S4C yn cael ei niweidio am byth,” meddai, “ynghyd â ffydd pobol yng ngair y Llywodraeth ar ddyfodol y Sianel.”

 Darogan diwedd S4C

 Mae rhoi penderfyniadau ariannu dros S4C yn llwyr yn nwylo’r BBC o 2015 ymlaen, yn mynd i olygu diwedd y Sianel yn ôl Angharad Mair yn ei cholofn yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. 

 Dywedodd cyflwynydd a golygydd Wedi 7 bod y newyddion yn bygwth dyfodol gweithwyr a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru.

 “Mae’r cyhoeddiad am y trafodaethau dirgel fu rhwng y BBC a’r Llywodraeth a’r sïon bod colled o £40 miliwn arall ar y gorwel i S4C – fydd yn dod â’r Sianel i bob pwrpas i ben – yn drychinebus.

“Bydd cannoedd o swyddi yn cael eu colli a chwmnïau’n cau.”

 Mae’r cytundeb ariannu presennol gyda’r BBC yn golygu bod cyfanswm y gyllideb ar gyfer S4C wedi ei benodi gan y Llywodraeth, ond mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn golygu y bydd y penderfyniad hwnnw yn llwyr yn nwylo’r BBC wedi 2015.