Fydd anifeiliaid mawr fel y blaidd, y lyncs a chathod gwyllt, ddim yn cael eu cyflwyno i gefn gwlad y Canolbarth fel rhan o arbrawf dad-ddofi gan gorff Rewilding Britain.
Yn hytrach, mae’n bosib y gallai’r wiwer goch a bele’r coed gael eu hail-gyflwyno yn yr ardal 28,300 hectar rhwng Pumlumon a Bae Ceredigion fel rhan o brosiect ‘O’r Mynydd i’r Môr’.
Mae’r cynllun eisoes wedi derbyn £3.4m o gronfa amgylcheddol Arcadia ar gyfer y gwaith.
“Dydi o ddim yn ymwneud efo stopio ffermio neu greu rhyw fath o barc cenedlaethol fatha dwyrain Affrica,” meddai Rory Francis, swyddog cyhoeddusrwydd Cymraeg ei iaith Rewilding Britain wrth golwg360.
“Mae o’n ymwneud efo adfer tirwedd sy’n rhan bwysig o dreftadaeth naturiol diwylliannol Cymru.”
“Dim anifeiliaid mawr peryg”
Mae’r swyddog yn dweud bod y cynllun am ddefnyddio dulliau fel adfer corsydd a chreu coetiroedd newydd, yn ogystal â helpu cymunedau lleol i “elwa” o’r amgylchedd.
Er bod gan Rewilding Britain ran allweddol yn y gwaith, dyw hi ddim yn fwriad i ailgyflwyno anifeiliaid cynhenid “peryg” fel y blaidd a’r lyncs i’r ardal.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae bele’r coed wedi cael eu symud i lawr o’r Alban er mwyn cryfhau’r boblogaeth o fele’r coed yn yr ardal. Fe faswn i’n sicr yn licio gweld y wiwer goch yn dod yn ôl hefyd.
“Ond does yna ddim bwriad o gwbwl i gyflwyno anifeiliaid mawr peryg fatha’r blaidd a’r lyncs.
“Mae angen ardal helaeth dros ben i gynnal anifeiliaid mawr, ond mae’r wiwer goch a bele’r coed yn dra gwahanol.”