Fe fydd gweithwyr sy’n helpu teithwyr yn un o feysydd awyr prysuraf gwledydd Prydain, yn cynnal cyfres o streiciau fel rhan o anghydfod ynglyn â chyflogau.

Fe fydd aelodau’r undeb Unsain ym Maes Awyr Gatwick yn cerdded allan am 48 awr o 5yb ar Dachwedd 20 a 26, a Rhagfyr 21.

Mae’r ffrae yn ymwneud â chais gan y gweithwyr am godiad cyflog o £1 yr awr.

Mae llefarydd ar ran y maes awyr yn dweud eu bod yn annog pawb i ddal ati i drafod er mwyn dod â’r anghydfod i ben.