Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn dweud ei fod e wedi’i “frawychu” gan gyflafan Pittsburgh.

Daw ei sylwadau ar ei dudalen Twitter ar ôl i 11 o bobol gael eu lladd mewn synagog wrth i wasanaeth i enwi plentyn gael ei gynnal yn yr adeilad.

Mae Robert Bowers yn wynebu 29 o gyhuddiadau, gan gynnwys 11 achos o ddefnyddio dryll i lofruddio, troseddau arfau, a chyhuddiadau’n ymwneud ag anafu plismyn yn ddifrifol.

Cafodd chwech o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yn ardal Squirrel Hill, ond doedd dim plant yn eu plith.