Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi cyhoeddi ei fod am roi’r gorau iddi, a hynny am resymau iechyd.

Ond mae’r Llafurwr 83 oed yn dweud ei fod eto i benderfynu pryd yn union y bydd yn gadael San Steffan – gan fod istheoliadau, meddai, yn gallu bod yn “gostus” i unrhyw blaid, yn ariannol ac fel arall.

Mae wedi bod yn Aelod Seneddol ers 31 o flynyddoedd, ac fe dreuliodd gyfnod yn Arweinydd Ty’r Cyffredin ac yn Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid yn 2016.

“Fe arhosa’ i am yr amser gorau i fynd,” meddai. “Mae is-etholiadau yn gallu bod yn gostus ac yn drafferthus i blaid… dw i ddim yn credu y gall y Llywodraeth (Dorïaidd) hon yn para cymaint â hynny, beth bynnag!

“Ond mae fy amser yn Nhy’r Cyffredin wedi bod yn grêt,” meddai wedyn. “Rwy’ i wedi mwynhau bob munud. Mae wedi bod yn brofiad arbennig a chyfoethog,,, ac fe lwyddais i bara 31 mlynedd.”