Mae grwp sy’n darparu gwasanaethau trin data i wledydd ledled Ewrop, wedi prynu cwmni yng Nghymru.

Fe ddaeth cadarnhad mai Oasis bellach yw perchennog Box-it Wales & Severn, sydd â’i brif swyddfa yn Crughywel.

Mae pencadlys Oasis yn ninas Dulyn, Iwerddon, ond mae ganddo swyddfeydd mewn nifer o ddinasoedd yn Ewrop. Mae’n cyflogi 550 o bobol ac yn helpu 6,000 o gwmnïau i handlo gwybodaeth yn y byd cyfreithiol, ariannol, iechyd, llywodraeth ac addysg.

Yn 2018, roedd Oasis ar restr y cwmnïau preifat oedd wedi tyfu gyflymaf yn Ewrop.

“Mae prynu Box-it Wales a& Severn yn rhoi troedle i ni yng Nghymru, ac mae’n llwyfan da i werthu ein gwasanaeth i farchnad fawr,” meddai Brian Connolly, Prif Weithredwr, Grwp Oasis.

Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys systemau cadw gwybodaeth yn ddiogel, gan barchu cyfreithiau data personol.