Mae Jumpei Yasuda, newyddiadurwr o Japan, yn dweud ei fod yn hapus o fod yn mynd adref ar ôl byw yn “uffern” Syria am fwy na thair blynedd.

Fe gafodd Jumpei Yasuda ei herwgipio gan Ffrynt Nusra, grŵp o wrthryfelwyr sy’n gysylltiedig al Qaida, yn 2015.

Mae’r newyddiadurwr yn dweud iddo gael ei gadw mewn cell lle’r oedd yn cael ei arteithio, ac roedd un cyfnod pan na chafod ymolchi am wyth mis.