Mae un o aelodau grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad wedi galw’r Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth yn “Donald Trump Cymreig” yn ystod dadl danllyd yn y Siambr ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Hydref 24).
Roedd Llŷr Huws Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Amaeth, yn cyfeirio at sylwadau a wnaeth Lesley Griffiths yn y Farmers Guardian yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â dod â chymorthdaliadau uniongyrchol i ffermwyr i ben.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar y mater ers dechrau’r haf, sy’n rhoi cyfle i ffermwyr leisio’u barn ar ddau gynllun newydd i ariannu’r sector amaeth wedi Brexit.
Er bod undebau’r ffermwyr eisiau i Lywodraeth Cymru gadw elfennau o’r cymorthdaliadau presennol, sy’n rhoi arian i ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir sydd ganddyn nhw, mae Lesley Griffiths yn awyddus i gyflwyno system hollol newydd.
Mae Llŷr Huws Gruffydd wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd o gynnal ymgynghoriad gan anwybyddu lleisiau’r ffermwyr.
“Traed moch”
“Rydych chi’n dechrau ymddwyn yn debyg i Donald Trump Cymreig,” meddai Llŷr Huws Gruffydd.
“Pryd mae ymgynghoriad ddim yn ymgynghoriad? Wel, pan mae ysgrifennydd y cabinet yn amlwg wedi penderfynu’n union beth y mae hi am ei wneud er gwaethaf yr hyn y mae unrhyw un arall yn ei ddweud.
“Dyw hi ddim yn edrych yn dda, ond ’dyw hi? Rydych chi wedi gwneud traed moch o’r broses hon.”
“Ymgynghoriad ystyrlon”
Mewn ymateb, dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi wedi bod yn glir ers cychwyn yr ymgynghoriad y bydd yn rhaid i’r cymorthdaliadau presennol “ddod i ben”, oherwydd nad yw’r system yn “addas” i ffermwyr Cymru.
Dywed ymhellach y bydd hi’n “ystyried” yr holl ymatebion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad, cyn gwneud penderfyniad pellach.
Mae disgwyl i’r cynlluniau newydd ddod i rym erbyn 2025, ac maen nhw’n cynnwys grantiau i fusnesau a chronfa ar gyfer ffermwyr sy’n gwella’r amgylchedd.
Bu Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru yn cynnal cyfarfod ar y cyd ym Mae Caerdydd heddiw, lle bu’r ddau’n amlinellu’r hyn y maen nhw’n credu ddylai ddigwydd i gymorthdaliadau wedi Brexit.