Mae cynghorydd o Fôn yn dweud nad oes angen mesurau arbennig i atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol adeg Ffair y Borth eleni – er bod pobol leol wedi cael lle i gwyno am ddifrod i eiddo a cheir y llynedd.
Mae Ffair y Borth wedi cael ei chynnal yn y dre’ ar lannau’r Fenai ers y 17eg ganrif, gan ddefnyddio’r un dyddiad bob blwyddyn, sef Hydref 24 (dydd Mercher yr wythnos hon).
Y llynedd, fe fu rhai’n pryderu bod y digwyddiad yn arwain at ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gyda phobol yn defnyddio’r ffair yn esgus i feddwi ac i amharu ar drigolion y dref.
Ond wfftio’r pryderon hyn y mae’r Cynghorydd Meirion Jones, gan ddweud nad oes llawer o broblemau o’r fath wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.
“Dim consyrn mawr”
“Dyden ni ddim wedi bod yn ymwybodol [o broblemau gwrth-gymdeithasol], a doedd yna ddim byd yng nghyfarfod y cyngor tref,” meddai’r cynghorydd, sy’n un o dri sy’n cynrychioli ward Aethwy ar Gyngor Môn, wrth golwg360.
“Does yna ddim consyrn mawr am y peth. Mae yna rywfaint wedi bod yn y gorffennol, ond dydi o ddim wedi bod yn broblem fawr sy’n cadw pobol draw.
“Fel arfer, dw i’n gwneud pwynt o fynd i lawr [i’r ffair] a jyst cerdded o gwmpas, ac yn y blynyddoedd dw i wedi bod yna, does dim byd wedi digwydd.”
Problem trwy gydol y flwyddyn
Mae Michael Davies yn aelod o Gyngor Tref Porthaethwy, ac mae’n dweud mai’r prif bryder adeg y ffair ar Hydref 24 bob blywyddyn yw “parcio”, gan fod prif feysydd parcio’r dre’ yn gorfod cau am ddyddiau.
Ond mae’n cyfaddef hefyd bod ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn broblem ym Mhorthaethwy trwy gydol y flwyddyn.
“Dw i’n meddwl bod yna dipyn o ymddygiad anghymdeithasol ym mhob man,” meddai. “Mae’n enwedig o ddrwg ym Mhorthaethwy, a dydi’r heddlu ddim eisiau gwybod oherwydd does ganddyn nhw ddim mo’r cryfder rhagor.
“Does neb, fwy neu lai, ym Mhorthaethwy heblaw am un heddwas. Dw i’n siŵr y bydd ganddyn nhw ragor wedi’u hanfon ar gyfer diwrnod y ffair, ond mae’r rhif yn fach, yn anffodus.
“Rydan ni’n gwybod pwy sy’n creu’r problemau, ond beth ydach chi’n wneud â nhw ydi’r broblem fwyaf.”