Bethan Jenkins
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar S4C i gyhoeddi pwy sydd wedi ei benodi i swydd y Prif Weithredwr “cyn gynted a bo modd”.

Dywedodd Bethan Jenkins wrth Golwg360 y “gallai’r oedi wrth gyhoeddi’r penodiad fod am resymau hollol ddidwyll, megis caniatáu i’r prif weithredwr newydd adael ei swydd cyn dechrau ar ei swydd newydd”.

“Ond dylai’r materion yma fod wedi eu cydnabod cyn i’r broses o gyfweld ddechrau yn fy marn i,” meddai.

“Mae’n briodol y dylai pobl Cymru fod â diddordeb yn y mater yma, o gofio bod S4C yn gorff cyhoeddus, ac o ystyried y newidiadau mawr sydd yn digwydd yno ar hyn o bryd.

“Nid yw hynny’n golygu y dylem feddwl y gwaethaf am y broses penodi, ond yn amlwg mae pobl yn siarad, a dwi’n galw ar S4C i gyhoeddi’r penodiad cyn gynted a bod modd.”

Daw hyn wedi llawer o feirniadaeth ynglŷn â’r broses benodi gan wleidyddion gan gynnwys Rhodri Glyn Thomos ac Alun Cairns.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomos fod y broses wedi bod yn “ffars lwyr” ac wedi dweud nad yw’n “deall sut mae S4C wedi cael eu hunain i mewn i’r sefyllfa yma”.

Mae Golwg 360 ar ddeall mai Ian Jones, rheolwr gyfarwyddwr A&E Television Networks yn Efrog Newydd, sydd wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd S4C.

Nid yw S4C wedi cadarnhau’r sibrydion gan ddweud fod angen datrys ‘materion  cytundebol’ yr unigolyn cyn y cyhoeddiad.

‘Ail ddechrau ymgynghoriadau’

Dywedodd Bethan Jenkins y dylai’r Prif Weithredwr newydd ail ddechrau trafod gyda’r sector greadigol yng Nghymru er mwyn cael “ystyried ei barn”.

‘Rwy’n disgwyl i flaenoriaethau S4C cael ei ail-lunio gan y Prif Weithredwr newydd, pan fydd ef neu hi yn gallu gosod stamp ei gweledigaeth ei hun ar y sianel,” meddai wrth Golwg360.

“O ran persbectif Plaid Cymru, mae ein blaenoriaeth yn aros yr un fath – bod y sianel yn rhan hanfodol o gefnogi a chryfhau’r iaith’.

Ond, dywedodd hefyd eu bod nhw’n parhau i bryderu ynglŷn â  “blaenoriaethau S4C” a’u bod yn “parhau i wrthwynebu’r toriadau sydd wedi eu gorfodi ar y sianel”.

“Mae yna ofn y bydd sefydliad mawr fel y BBC yn llyncu S4C, a hynny ar draul gwylwyr ein sianel iaith Gymraeg Cenedlaethol, a’i datblygiad hir dymor,” meddai.

“Wedi dweud hynny, dwi ddim yn credu bod modd dychmygu y bydd S4/C yn cytuno, oherwydd mae angen iddynt fod yn rhan o’r drafodaeth ar ddyfodol cyllido S4/C. Os nad ydynt o gwmpas y bwrdd, pa siawns sydd ganddynt i roi barn S4/C gerbron rheolwyr y BBC?”