Mae gwraig o bentref Dolydd ger Caernarfon wedi bod yn Llundain yn rhan o brotest yn erbyn yr hyn mae hi wedi’i alw’n “ffolineb llwyr Brexit”.

Dywed Eluned Rowlands wrth golwg360 fod ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddai’n rhaid i Gymru “sboncio dros Loegr i fynd i Ewrop”.

Roedd hi ymhlith criw o oddeutu 40 o bobol o’r gogledd a deithiodd i brifddinas Lloegr i gymryd rhan yn y brotest yn galw am gynnal pleidlais o’r newydd ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Dw i yn meddwl yn wirioneddol fod Brexit yn ffolineb llwyr mewn oes lle mae blociau o gydweithio yn y byd,” meddai.

“Efo’n diwylliant ni yng Nghymru, ’dan ni’n rhan o ddiwylliant Ewrop mewn hanes a phob peth.

“Wrth gwrs, mae gynnon ni Loegr rhyngon ni ac mae rhaid i chi sboncio dros Loegr i fynd i Ewrop, mewn ffordd.”

Lle’r oedd pobol y gogledd?

A hithau’n un o griw bach o bobol o’r gogledd a deithiodd y 280 o filltiroedd i Lundain, dywed Eluned Rowlands ei bod hi’n synnu nad oedd mwy o bobol o Gymru yno.

“O’n i’n gadarn yn erbyn Brexit o’r dechrau cynta’, a dw i wedi rhyfeddu fod cyn lleied o bobol Gwynedd, yn cynnwys Penllyn, Eifionnydd, Arfon a Môn i gyd yn y bws, ryw ddeugain ar y mwya’…

“Fe ddylai fod yna dorf o’r gogledd yn Llundain, ond barn bersonol ydi hynna.

“Dw i’n falch iawn fy mod i wedi bod. Roedd hi’n waraidd iawn yna. Ond oedd o’n anhrefnus braidd… oeddach chi ddim yn gwybod lle oeddach chi’n mynd…

“Oedd yna waith cerdded. Dw i’n meddwl fy mod i wedi cerdded saith cilomedr.

“Fues i yna yn y brotest yn erbyn rhyfel Irac. Oedd yna filiwn o bobol yn honno. Roedd honno’n drefnus iawn, yn fwy trefnus na ddoe.

“Ond ddoth dim byd o hynny, wnaeth neb wrando ar hynny chwaith. Ella bod y ffaith fod 700,000 wedi bod yno’n protestio ddoe’n deud rhywbeth.”

‘Celwydd noeth’

Er ei bod hi wedi penderfynu o’r cychwyn cyntaf mai aros yn Ewrop oedd y peth gorau i Gymru, dywed nad oedd hi’n ymwybodol o’r holl ffeithiau am Brexit wrth fwrw ei phleidlais.

“Mae pawb yn deud bod democratiaeth wedi gweithio a bod pawb wedi cael pleidlais,” meddai. “Ond o’n i’n hun ddim yn gwybod i be’ o’n i’n pleidleisio.

“O’n i’n gwybod pan fwrais i ‘mhleidlais mai isio aros yn Ewrop o’n i.

“Ond pan oeddach chi wedi gweld bws Boris Johnson yn deud fod £350m o bres yn dod i mewn i ni ac y bydda fo’n cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd, oedd o’n gelwydd noeth, yr holl betha’ ’ma.

“A doedd y rhan fwya’ o bobol ddim yn gwybod be’ oedd Brexit.”

Newid ei safbwynt?

Er bod sefyllfa Brexit ychydig yn fwy eglur erbyn hyn, er yr ansicrwydd ynghylch y trafodaethau tros gytundeb â Brwsel, dydy hi wedi newid ei safbwynt ers y bleidlais gyntaf ddwy flynedd yn ôl.

“Dw i’n ymwybodol fod o’n mynd i effeithio’n economaidd, yn wleidyddol ac yn ddiwylliedig. Mae’r Alban yn llawer iachach fel cenedl.

“Faswn i yng Ngogledd Iwerddon, faswn i’n deud “Popeth yn iawn” i uno efo’r Weriniaeth. Un wlad ddylen nhw fod.”

Annibyniaeth i Gymru?

Wrth drafod dyfodol Cymru, dywed y bydd Cymru’n “cael ei llyncu dan gesail Lloegr” oni bai bod annibyniaeth yn dod yn sgil Brexit.

“Os nad oes ganddon ni lais annibynnol, byddwn ni’n cael ein llyncu dan gesail Lloegr.”

Doedd Jeremy Corbyn ddim yn y brotest oherwydd ei fod wedi teithio i Chile “am fater brys”, sef cyfarfod ag arweinydd y wlad, Michelle Bachelet.

Wrth ymateb i’w ddiffyg presenoldeb, ychwanegodd, “Mae Jeremy Corbyn yn sicr yn wan. Dydi o ddim wedi gwneud safiad iawn o gwbwl.

“Tasa’r Blaid Lafur wedi sefyll a deud eu bod nhw yn erbyn Brexit, fasa yna lawer mwy o symudiad wedi bod.”