Mae Cyngor Sir Gâr wedi dechrau ar y gwaith glanhau yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei alw’r llifogydd gwaethaf ers 30 o flynyddoedd a mwy.

Cafodd ardaloedd Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn, Llanybydder, Llandeilo, Llandysul a Phont Tyweli eu heffeithio fwyaf wrth i lefelau afonydd godi’n sylweddol.

Dyma’r tro cyntaf erioed i amddiffynfeydd ar lannau afon Tywi gael eu torri.

Mae cartrefi a busnesau’r sir wedi’u heffeithio’n ddifrifol gan y sefyllfa, gyda nifer fawr o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Mae’r gwasanaethau brys, gyda chefnogaeth y cyngor, wedi dechrau ailagor nifer o ffyrdd y sir wrth i’r tywydd ddechrau gwella. Serch hynny, mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus ac i osgoi rhai ardaloedd yn gyfangwbl.

Galw am gydweithrediad y gymuned

Dywedodd Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg Cyngor Sir Gâr, Stephen Pilliner, “Rydym wedi profi lefelau afonydd di-gynsail, a’r llifogydd gwaethaf a welsom yn Sir Gâr ers dros 30 o flynyddoedd.

“Rydym wedi cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dros y deuddydd diwethaf i ymateb i’r sefyllfa. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, mae cyfaint y dŵr yn ormod i’r amddiffynfeydd rhag llifogydd.

“Byddwn yn parhau i gael adnoddau ychwanegol i gefnogi cymunedau a chlirio’r llanast oddi ar ffyrdd lle mae’r llifogydd wedi lleihau.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, ond gobeithio y bydd pobol yn deall fod ein hadnoddau’n brin felly rydym yn gofyn am gydweithrediad gan drigolion a modurwyr wrth i ni ymdrin â’r llifogydd sy’n weddill a’r canlyniadau mewn ardaloedd lle mae’r dŵr wedi lleihau.

“Gofynnwn i bobol yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio i alw gyda’u cymdogion a phobol fregus yn eu cymunedau.”