Edwina Hart
Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi ymateb i feirniadaeth nad yw hi yn gwneud digon er mwyn denu buddsoddiad i Gymru.

Awgrymodd Aelod Cynulliad Gwyr nad oedd gan y Cynulliad y grymoedd i allu gwneud gwahaniaeth mawr i economi’r wlad.

“Mae’r economi yn newid o ddydd i ddydd a rhaid cofio ein bod ni’n wlad fechan iawn ar ymylon Gorllewin Ewrop,” meddai.

“Does gennyn ni ddim llawer iawn o rym er mwyn newid pethau.

“Dyw Llywodraeth San Steffan, a Llywodraethau’r Wlad Groeg a’r Unol Daleithiau ddim wedi gallu datrys pethau ar frys.

“Rydw i’n credu fy mod i’n haeddu amser er mwyn sicrhau fod ein polisïau yn gwneud y tro.”

Mae’r Gweinidog Busnes wedi derbyn beirniadaeth lem gan y gwrthbleidiau ers cymryd yr awenau ym mis Mai.

Yr wythnos diwethaf dywedodd un o Aelodau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott, ei fod yn “druenus” nad oedd Edwina Hart wedi mynd i gyfarfod y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig ar ddenu buddsoddiad i Gymru.

Wrth siarad yn y Siambr ddoe, gofynnodd Eluned Parrott a fyddai yna arwyddion cyn bo hir fod strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad yn gweithio.

Ymatebodd Edwina Hart ei bod hi wedi derbyn “cefnogaeth fawr i’r cyfeiriad yr ydyn ni yn mynd”.

“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth fawr i’r Parthau Menter, a’r pecynnau hyfforddi sydd ar gael yn y diwydiant.”

Mae pum parth menter wedi eu clustnodi hyd yma, ar Ynys Môn, ac yng Nghaerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glyn Ebwy a Sain Tathan.

Mynegodd yr Aelod Cynulliad Peter Black ei siom na fydd yna barth menter yn ne-orllewin Cymru.

Ond dywedodd Edwina Hart mai “dyma gam cyntaf y cyhoeddiad. Rydyn ni eisoes wedi bod yn trafod ag ardaloedd eraill”.

“Mae safleoedd gan gynnwys Sain Tathan yn ddewisiadau amlwg ond mae’r drws ar agor i safleoedd eraill.”