James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers
Mae’r band roc Manic Street Preachers wedi rhoi arian tuag at apêl teuluoedd y pedwar glöwr fu farw yng Nghwm Tawe.

Dywedodd Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain, ar wefan Twitter fod y banc o’r Coed Duon wedi ei ffonio er mwyn addo “rhodd sylweddol”.

Ychwanegodd ei fod wedi derbyn sawl cyfraniad a bod y cyfanswm bellach dros £100,000.

Mae’r Archesgob, Dr Barry Morgan, a’r Tywysog Charles ymysg y rheini sydd eisoes wedi cyfrannu ar y gronfa.

Yn gynharach yr wythnos hon cytunodd Llywodraeth Prydain i dalu 25% ar ben bob un o’r rhoddion ariannol.

Fe fydd arian o’r gronfa yn cael ei ddosrannu i’r teuluoedd gan Undeb Cenedlaethol y Mwynwyr.

Fe fu farw Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, ar ôl cael eu caethiwo yng ngwaith glo Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe ddydd Iau.

Llwyddodd tri glöwr arall i ddianc ac aethpwyd ag un i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Y gred yn lleol yw mai Malcolm Fyfield, rheolwr 56 oed y gwaith glo, yw’r dyn hwnnw.

Roedd wedi cropian 800 troedfedd drwy falurion o grombil y graig ac fe gymerodd ddwy awr iddo gyrraedd y wyneb, yn ôl adroddiadau.

Yn y cyfamser mae ymchwiliad i beth achosodd y trychineb yn parhau. Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ei fod yn “ddyddiau cynnar”.