Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno cynllun sy’n cael gwared ar ddirwyon llyfrgell i ofalwyr o fewn y sir.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell yr awdurdod lleol wedi cyflwyno categori benthycwyr newydd yn benodol ar gyfer helpu gofalwyr.
Dywed y cyngor ei bod yn aml yn “anodd” i ofalwyr ddychwelyd llyfrau i’r llyfrgell, ac mae cael gwared ar y system o ddirwyo’n gydnabyddiaeth o hynny.
“Rydym i gyd yn cydnabod gwerth anferthol gofalwyr yn ein cymunedau ac mae’n bleser mawr gallu cynnig rhywbeth yn ôl trwy ddileu’r rhwystrau rhag defnyddio helaeth ein gwasanaeth llyfrgelloedd,” meddai Rachel Powel, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am lyfrgelloedd.
Mae’r cynllun newydd hefyd yn golygu bod hawl gan ofalwyr fenthyg hyd at 20 o lyfrau ar yr un pryd iddyn nhw eu hunain a’r person y mae’n nhw gofalu amdanyn nhw.
Bydd cerdyn llyfrgell arbennig yn galluogi gofalwyr i fenthyg amrywiaeth o ddeunydd a fydd o fudd i’w gwaith.