Fe fydd albwm newydd Al Lewis yn cael ei ryddhau ar CD bythefnos cyn y bydd ar gael ar-lein, a hynny er mwyn “trio annog pobol i fynd allan i’w siopau lleol Cymraeg,” meddai’r cerddor o Gaerdydd.
Mae’n bedair blynedd ers i Al Lewis ryddhau ei albwm diwethaf o gerddoriaeth, Heulwen o Hiraeth, a bydd ei albwm nesaf yn cael ei ryddhau ddydd Gwener yr wythnos hon (Hydref 12).
Bydd Pethe Bach Aur yn ymddangos ar ffurf CD mewn siopau Cymraeg o Hydref 12 ymlaen, ond ni fydd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y we am bythefnos wedyn.
“Dyma’r tro cyntaf i fi wneud hyn,” meddai Al Lewis wrth golwg360. “Ers i mi ryddhau’r albwm diwethaf, mae tirwedd y sîn a thirwedd y busnes wedi newid cryn dipyn.
“Ro’n i’n meddwl y byddai’n addas y tro yma i wneud rhywbeth fel hyn i weld os galla i roi bach o hwb i’r gwerthiant [yn y siopau lleol].
“Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig cael CD a gweld y gwaith celf a, gobeithio, denu pobol yn ôl i’r siop.”
Albwm o sawl carreg filltir
Mae Pethe Bach Aur yn nodi sawl newid ym mywyd a gyrfa gerddorol Al Lewis, gan gynnwys y ffaith mai ef ei hun sydd wedi’i gynhyrchu yn Stiwdio’r Bont yng Nghaerdydd – a gafodd ei sefydlu ganddo.
Mae’r cerddor yn arbrofi mwy gyda synau electronig yn yr albwm, gyda lleisiau amrywiol fel rhai Kizzy Crawford a’r grŵp o Zimbabwe, Zim Voices, yn ymddangos ar ambell drac hefyd.
Ond y dylanwad mwyaf ar yr albwm yw’r ffaith i Al Lewis ddod yn dad am y tro cyntaf ym mis Chwefror eleni, a dyna’r ysbrydoliaeth, meddai, y tu ôl i’r enw, Pethe Bach Aur.
“Mae’n rhoi persbectif newydd ar fywyd pan ydach chi’n cael plentyn, felly mae’r pwnc yna’n rhywbeth yr oeddwn i’n meddwl lot amdano tra oeddwn i’n gneud yr albwm yma,” meddai.
“Yn ein bywyd y dyddiau yma, rydan ni i gyd mor brysur, ac mae ein sylw ni’n cael eu cymryd gan gymaint o bethau gwahanol ac mae’n anodd weithiau i jyst cymryd eiliad i fwynhau bywyd a mwynhau’r foment, yn enwedig gyda phlentyn bach.
“Mi wnes i gychwyn [ar yr albwm] ym mis Ionawr cyn iddi hi [Mabli] gael ei geni, felly mae’r broses wedi cyd-fynd efo’r broses o ddysgu sut i fod yn rhiant ar yr un amser…”
Mae modd gwrando ar un o ganeuon yr albwm yn fan hyn: