Mae disgwyl i’r ddau o’r tri ymgeisydd sydd am olynu Carwyn Jones fel arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru lansio eu hymgyrchoedd heddiw.
Bydd Mark Drakeford a Vaughan Gething yn amlinellu eu cynlluniau yn ystod y bore tra bydd y trydydd ymgeisydd yn y ras, Eluned Morgan, yn lansio ei hymgyrch cyn diwedd yr wythnos.
Mae Carwyn Jones yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd ar Ragfyr 11 a bydd ei olynydd yn cymryd yr awenau’r diwrnod canlynol.
Bydd Mark Drakeford yn pwysleisio ei fod yn sosialydd yr 21ain ganrif, fel ei fentor, y diweddar Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a bydd hefyd yn datgan ei undod â Jeremy Corbyn.
Bydd Vaughan Gething yn amlinellu ei gynlluniau am fargen newydd i Gymru – yn cynnwys polisïau ar ysgolion, rhai sydd wedi bod mewn gofal, a’r henoed.
Fis diwethaf, penderfynodd Llafur Cymru ar drefn un-aelod-un-bleidlais ar gyfer dewis arweinydd newydd fydd yn olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru – system debyg i’r un a ddefnyddiwyd i ethol Jeremy Corbyn.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.