Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr M6.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad rhwng cyffordd 2 yn Coventry a chyffordd 3 yn oriau man bore dydd Llun.

Dywedodd Heddlu Swydd Warwick bod y dyn a fu farw yn ei 40au.

Roedd y draffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad tra bod y gwasanaethau brys ar y safle.

Mae’r ffordd bellach wedi agor i gyfeiriad y de ond ynghau i gyfeiriad y gogledd. Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.