Mae dau redwr wedi marw ar ôl cymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd, meddai’r trefnwyr.

Credir bod y ddau wedi cael ataliad ar y galon ar ôl gorffen y ras flynyddol sy’n denu 25,000 o gystadleuwyr.

Cafodd y ddau eu trin gan dîm meddygol y ras wrth y llinell derfyn a’u cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond fe fu farw’r ddau yn ddiweddarach.

Dywed y trefnwyr  Run 4 Wales mai dyma’r marwolaethau cyntaf yn hanes y ras sydd wedi bod yn cael ei chynnal ers 15 mlynedd.

“Mae hyn yn drasiedi ofnadwy i’r teuluoedd. Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf  i’r teuluoedd a’u ffrindiau… Mae pawb sydd ynghlwm a’r ras wedi torri eu calonnau,” meddai Matt Newman, prif weithredwr Run 4 Wales.

Mae’r trefnwyr yn bwriadu cynnal adolygiad o’u trefniadau.