Gallai’r Alban fynd yn wlad annibynnol heb orfod cynnal ail refferendwm, yn ôl Aelod Seneddol yr SNP, Joanna Cherry.
Ar ddechrau cynhadledd y blaid yn Glasgow, dywedodd llefarydd materion cartref yr SNP y gallai’r blaid fynnu annibyniaeth gan Lywodraeth Lafur Jeremy Corbyn fel rhan o gytundeb i’w gefnogi i drechu’r Llywodraeth Geidwadol bresennol o dan arweinyddiaeth Theresa May.
Dywedodd y byddai’r blaid yn gofyn am “bris uchel” gan Lafur er mwyn sicrhau mai Jeremy Corbyn fyddai’n arwain llywodraeth leiafrifol. Fe allai cytundeb o’r fath hefyd gynnwys tynnu arfau niwclear allan o’r Alban ac ail refferendwm annibyniaeth.
Ond awgrymodd Joanna Cherry y gellid hepgor yr angen am refferendwm er mwyn rhoi mwy o bwysau ar Lafur am gyfaddawd.
‘Digwyddiad democrataidd’
Ar gyrion cynhadledd yr SNP, dywedodd Joanna Cherry wrth ymgyrchwyr y blaid, “Ein nod yw gwneud yr Alban yn wlad annibynnol, ond fe wnaf eich atgoffa bod yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn hynny yn 2014.
“Rhaid bod yna ddigwyddiad democrataidd, a dw i’n dewis y geiriau hynny’n ddoeth, ond does dim rheidrwydd iddo fod yn refferendwm, fe allai fod yn rhywbeth arall, fel etholiad cyffredinol. Ond rhaid bod yna ddigwyddiad democrataidd.”
Yn y cyfamser, dywedodd y byddai’r SNP yn mynd am ragor o bwerau i Holyrood wrth i’r galw am ail refferendwm Ewropeaidd “godi stêm”. Gallai hynny arwain at etholiad cyffredinol brys, meddai.
“Gallem fanteisio ar y gobeithion o gynnal etholiad cyffredinol oherwydd dw i’n credu y byddai gennym siawns dda o gael y Torïaid allan o rym.
“Fwy na thebyg, fyddai Llafur ddim yn ennill gyda mwyafrif, ond fe allen nhw fod yn chwilio am nifer fawr – nifer fwy nag sydd ar hyn o bryd – o aelodau seneddol yr SNP am gefnogaeth.
“Byddem yn gofyn am bris uchel am gefnogaeth…”