Mae yna ormod o oedi cyn cynnig cymorth arbenigol i blant sydd wedi cael eu treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol , meddai’r Comisiynydd Plant.

Yn ei hadroddiad blynyddol diweddaraf, mae Sally Holland yn dweud bod yr amseroedd aros yn “annerbyniol”.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gefnogaeth arbenigol ar gael i blant, gyda’r gefnogaeth honno’n cynnwys archwiliad meddygol fforensig a gwasanaethau cwnsela i helpu dioddefwyr.

Pryderon

Dywed y Comisiynydd nad yw plant sydd wedi dioddef trawma rhyw yn cael archwiliad meddygol fforensig yn ddigon cyflym, a hynny oherwydd prinder staff meddygol a’r ffaith eu bod yn aml yn gorfod teithio’n bell.

Does dim mynediad i gwnsela a chymorth arbenigol prydlon chwaith, meddai wedyn, gan atal plant rhag cychwyn ar y llwybr at adferiad.

Mae tystiolaeth gan yr elusen, New Pathways, sy’n gyfrifol am wyth canolfan yng Nghymru, yn nodi bod mwy o blant nag erioed o’r blaen yn dod ymlaen am gymorth arbenigol ar ôl dioddef cam-drin rhywiol, gyda’r rhestrau aros yn hir mewn rhai ardaloedd.

Gall yr amser aros fod rhwng tri mis a thair blynedd ledled Cymru, medden nhw.

“All hyn ddim bod yn iawn”

“Rwy’n clywed am sefyllfaoedd erchyll lle mae pant wedi gorfod aros am ddyddiau i gael eu harchwilio, ac yn gorfod teithio’n hwyr yn y nos i weld rhywun ar ôl profiad arswydus – all hynny ddim bod yn iawn,” meddai Sally Holland.

“Mewn un achos arweiniodd hyn at blentyn 4 blwydd oed o ganolbarth Cymru yn gorfod teithio i Gaerdydd yn hwyr yn y nos, ac wedyn yn gorfod aros oriau am Arholwr Meddygol Fforensig i gyrraedd.

“Erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y plentyn yn llwglyd, blinedig ac yn llai parod i gael ei archwilio, gan wneud yr holl broses yn anoddach i’r plentyn a phawb arall oedd ynghlwm â hyn.”