Fe fydd cyfres newydd S4C, DRYCH: Ystalyfera: Mewn Lle Cyfyng (nos Sul, 9 o’r gloch) yn rhoi sylw i dirlithriad yng Nghwm Tawe oedd wedi gorfodi degau o bobol i adael eu cartrefi.

Diflannodd gerddi trigolion Heol Gyfyng yn Ystalyfera yn sydyn iawn yn dilyn y tirlithriad fis Chwefror y llynedd ac fe fu’n flwyddyn gythryblus iddyn nhw ers hynny.

Ond nid sefyllfa newydd mo hon yng Nghwm Tawe, gyda thirlithriadau’n ddigwyddiadau cyffredin yno ers y 1960au.

Fe fydd y rhaglen gan Hay Productions a Boom Cymru yn cynnwys deunydd o’r archif dros gyfnod o hanner canrif, gan holi i ba raddau mae’r teimlad o ddryswch ac anobaith yn sgil tirlithriadau’n arwydd o dranc y gymuned ers colli’r pyllau glo a ffatri glociau enwog Tic-Toc.

‘Erchyll’

Fe fydd y rhaglen yn clywed gan rai o’r trigolion lleol, sy’n mynegi pryderon am golli eu cymuned a’u hanes.

Un o’r cyfranwyr yw Morganne a’i theulu, a gafodd orchymyn i adael eu cartref lai na blwyddyn ar ôl symud yno.

Dywedodd, “Fydden i ddim eisiau i unrhyw un ddelio gyda beth ry’n ni’n gorfod delio ag e. Mae e’n erchyll.

“Beth sy’n rhwystredig yw bod popeth mas o’n dwylo ni, ni methu gwneud dim dros ein hunain. Ni’n deulu sy’n hoffi gwneud pethe dros ein hunain, ni ddim yn hoffi gofyn am help, felly mae’r broses yma wedi bod mor ddigalon.”

‘Dw i’n caru Ystalyfera’

Un arall a gafodd ei effeithio oedd Paul Harris, a symudodd i Heol Gyfyng o Lundain dair blynedd yn ôl.

Dywedodd, “Dw i’n caru Ystalyfera. Dw i ddim wedi dod o hyd iddo yn unman arall, ond mae ymdeimlad o gymuned go iawn yma.

“Pan dw i’n mynd â’r cŵn am dro, mae pawb yn dweud ‘Helo’. Galla i sgwrsio â phobol, dw i wedi cwrdd â llawer o bobol hyfryd a dw i wedi setlo yma. Dw i’n ei garu.”

Ychwanegodd un arall o’r trigolion, Dewi Hopkins, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Ystalyfera ac wedi magu ei deulu yno, “Fi ddim yn mynd i fynd i rywle tu allan i’n milltir sgwâr oherwydd teulu a ffrindie. ‘S’dim lot yn Ystalyfera nawr.

“Mae angen i bobl feddwl am y dyfodol. Mae angen i bobl sylweddoli y bydd y lle ‘ma’n marw, a fi ddim moyn gweld hwnna.”